P-04-617
Stopiwch y Troslgwyddo Dilyffethair o Lyfrgelloedd Cyhoeddus i'r
Sector Gwirfoddol
Testun y ddeiseb
Rydym yn galw ar y Dirprwy Weinidog dros ddiwylliant i dderbyn, ar
unwaith, argymhelliad III yn yr Adolygiad Arbenigol o Lyfrgelloedd
Cyhoeddus yng Nghymru 2014 (Ni ddylid gweithredu newidiadau i
wasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus cyn cynhyrchu dewisiadau
wedi’u costio). Ar ben hynny, dylai’r Dirprwy Weinidog
bellach fod yn cynghori pob awdurdod lleol yng Nghymru y bydd y
gofyniad hwn yn effeithiol ar gyfer newidiadau arfaethedig a
gyhoeddir ar ôl dyddiad cyhoeddi'r Adolygiad Arbenigol (22
Hydref 2014) a hefyd ar gyfer cynigion a gyhoeddwyd cyn y dyddiad
hwnnw, lle mae ymgynghoriad cyhoeddus yn dod i ben ar ôl 22
Hydref 2014. Mae angen y camau hyn i atal y pentwr o gynigion gan
Fro Morgannwg ac awdurdodau lleol eraill yng Nghymru i drosglwyddo
ein llyfrgelloedd cyhoeddus i'r sector gwirfoddol heb roi
ystyriaeth briodol i opsiynau eraill.
Prif ddeisebydd:
Adam Riley - Save Rhoose
Library
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
Nifer y llofnodion:
66